Mae deng myrddiwn o rinweddau

1,(2).
(Rhan I - Crist oll yn hawddgar)
Mae deng myrddiwn o rinweddau,
  Dwyfol yn ei Enw pur;
Yn ei wedd mae tegwch ragor
  Nag a welodd môr na thir;
    Rhosyn Saron!
  Oll yn hawddgar yw efe.

Iesu, Iesu, 'rwyt ti'n ddigon,
  'Rwyt ti'n llawer mwy na'r byd,
Mwy trysorau sy'n dy enw,
  Na thrysorau'r India i gyd,
     Oll yn gyfan,
  Ddaeth i'm meddiant gyda'm Duw.
William Williams 1717-91

Tonau [878747]:
Caersalem (Robert Edwards 1796-1862)
Edge Vale (<1875)

gwelir:
  Rhan II - O Dragwyddol Graig yr oesoedd
  Gwyn a gwridog yw fy Arglwydd
  Iesu Iesu 'rwyt ti'n ddigon
  Nid oes pleser nid oes tegan
  Rho gydwybod wedi ei chânu

(Part 1 - Christ altogether beautiful)
There are ten myriads of divine
  Virtues in his pure Name;
In his face there is a fairness superior
  To any sea or land have seen;
    Rose of Sharon!
  Altogether beautiful is he.

Jesus, Jesus, thou art sufficient,
  Thou art much greater than the world,
More treasures are in thy name,
  Than all the treasures of India,
    All entirely,
  That came into my possession with my God.
tr. 2017 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~